Gyrfa Cymru: Work Experience in Wales

Gyrfa Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Speakers for Schools i gynnig profiad gwaith i bob ysgol wladol yng Nghymru

Heddiw, mae Gyrfa Cymru a’r elusen symudedd cymdeithasol Speakers for Schools yn cyhoeddi partneriaeth genedlaethol newydd, a fydd yn sicrhau bod cyfleoedd profiad gwaith a sgyrsiau ysbrydoledig am yrfaoedd ar gael i bob myfyriwr rhwng 14-19 oed yng Nghymru ac sy’n cael addysg mewn ysgolion gwladol.

Mewn ymgais i helpu pobl ifanc dan anfantais i ddal i fyny ar ôl Covid, bydd y bartneriaeth newydd hon yn helpu’r genhedlaeth nesaf i gysylltu â chyflogwyr ledled y DU a chaniatáu iddynt gael profiad o’r byd gwaith ar ôl 18 mis o gael eu hamddifadu o brofiadau gyrfa.

Mae’n adeiladu ar waith presennol Gyrfa Cymru sydd â 570 o gynghorwyr gyrfa, cynghorwyr cyswllt busnes a chydlynwyr gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith i gefnogi pobl ifanc drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaoedd iddynt a chyfleoedd i ryngweithio â chyflogwyr. Mae hefyd yn cefnogi ysgolion i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder athrawon i ddarparu rhaglen gyrfaoedd effeithiol.

Yn ogystal â’i gynnig presennol, nawr gall Gyrfa Cymru sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o’r gwahanol gyfleoedd lleoliad gwaith sydd ar gael drwy Speakers for Schools, yn amrywio o ran hyd o un diwrnod i wythnos lawn.

Bydd y bartneriaeth yn cyflwyno miloedd o gyfleoedd gan fusnesau blaenllaw o bob cwr o’r DU, fel Tesco, Spotify a Virgin Atlantic. Bydd y bartneriaeth hefyd yn darparu mynediad at restr o siaradwyr ysbrydoledig o safon sy’n rhoi sgyrsiau rheolaidd ar yrfaoedd, gan gynnwys Andrew Bailey, Llywodraethwyr Banc Lloegr, cyn Brif Weinidogion a Phrif Swyddogion Gweithredol cwmnïau’r FTSE-100.

Mae’r gallu i ymgymryd â phrofiad gwaith rhithwir yn golygu y gall myfyrwyr yn y rhannau mwyaf gwledig o Gymru ymgysylltu â chyflogwyr sydd gannoedd o filltiroedd i ffwrdd, mewn dinasoedd fel Llundain, Manceinion a Chaeredin.

Meddai Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Gall profiad gwaith fod yn gyfle gwerthfawr iawn i bobl ifanc ddarganfod mwy am yr hyn yr hoffent ei astudio neu ei wneud fel gyrfa yn y dyfodol.

“Mae ehangu’r cyfleoedd i bob person ifanc yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru felly rydym yn croesawu’r fenter gyffrous hon yn fawr.”

Meddai Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfa Cymru: “Rydym am i bob person ifanc yng Nghymru deimlo ei fod wedi cael ei rymuso i ymuno â’r byd gwaith a theimlo’n barod i wneud hynny. Wrth i ni weld effaith y coronafeirws, mae’n bwysicach nag erioed o’r blaen bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael ar eu cyfer yn y dyfodol a’u bod yn derbyn cymorth i ddatblygu’r sgiliau a fydd yn eu galluogi i gael mynediad at y cyfleoedd hyn.

“Rydym yn falch o ymuno â Speakers for Schools i gynnig ystod ehangach o gyfleoedd i bobl ifanc. Bydd hyn nid yn unig yn rhoi blas iddynt o’r gwahanol ddiwydiannau a swyddi, ond hefyd yn rhoi profiad gwerthfawr, sy’n dod yn fwyfwy pwysig i lawer o gyflogwyr.”

Ychwanegodd Sarah Cleveley, Cyfarwyddwr Ymgysylltu Cenedlaethol, Speakers for Schools: “Y bartneriaeth hon gyda Gyrfa Cymru yw’r cyntaf o’i bath sy’n cynnig cyfleoedd profiad gwaith o ansawdd uchel i bob ysgol wladol ledled y wlad. Nid yw’r angen i gynyddu’r ddarpariaeth profiad gwaith erioed wedi bod mor bwysig, yn sgil y ffaith bod Covid-19 wedi arwain at gymaint o bobl ifanc yn colli cyfleoedd.

“Mae darparu profiad gwaith rhithwir yn golygu y gall pobl ifanc gysylltu â chyflogwyr y tu allan i’w hardal leol, gan ddileu rhwystrau fel costau teithio a llety. Mae’n agor y drws i filoedd o gyfleoedd gyrfa newydd i bobl ifanc er mwyn cael profiad o’r byd gwaith, gan ymgysylltu â busnesau blaenllaw ac arbenigwyr yn eu maes.”

Meddai Caitlin, myfyrwraig 17 oed o Bontyclun: “Rwy’n credu fy mod i’n ffodus fy mod yn gwybod beth rwyf eisiau ei wneud ar ôl gadael yr ysgol ac mae dod o hyd i brofiad gwaith rhithwir gyda Bentley Motors drwy Speakers for Schools wedi galluogi i mi ddysgu mwy am y diwydiant. Roedd Covid-19 wedi fy atal i a llawer o’m blwyddyn ysgol rhag cael profiad gwaith, a dyna pam mae angen rhaglenni fel Gyrfa Cymru a Speakers for Schools i helpu i ymchwilio i yrfaoedd ac ychwanegu at fy CV. Rwy’n dal i boeni am y gystadleuaeth gynyddol i gael lle yn y brifysgol y flwyddyn nesaf, ond mae cael profiad gwaith gyda chwmni fel Bentley Motors yn rhoi hwb i’m hyder ac yn helpu i wneud fy nghais yn gryfach.”